{i yru llatai}
1 Dadlittia'r diwyd latai
2 hwnt or mars dwg hynt ir mai
3 gedaist ciliaist myn celi
4 arnaf y mae deisiae di
5 dof holion divai helynt
6 da vvost lle gwyddost gynt
7 peraist ym vvn ar vngair
8 par ym weled merched Mair
9 dewis Lynn dos yn Lanvalch
10 Llugan lle mae rhai lliwgalch
11 cais yn y llann ag annerch
12 ys olwr mawr selwr merch
13 dywaid glaim diwyd y gler
14 hon yw'r salm hynn ir seler
15 achwyn maint yw'r achwyn mav
16 a chais ym vanachesau
17 saint o bob lle a'm gweirdd
18 santesau hvndeiau heirdd
19 gwyn eiry arial gwawn oror
20 gwennoliaid cwveniaid cor
21 chwiorydd bedydd bob vn
22 i Vorvydd araf eurvvn
23 o caf innav rhac cofal
24 or freudur dyn eglur dal
25 oni ddaw er cludaw clod
26 hoyw ne eiry honno erod
27 da ddodrefn yw dy ddeudroed
28 dwg o'r cor ddyn deg ir coed
29 car trugain cariad rhagor
30 cais y glochyddes o'r cor
31 cais vrad ar y Abades
32 cynn lleuad haf cinlliw tes
33 vn ai medr einym adail
34 ar lliain du ir llwyn dail
Dauid ap Gwilim